662 Bedydd Ymgrymwn, Arglwydd, ger dy allor lân i ddeisyf bendith ar yr oedfa hon; O tyred atom yn dy fedydd tân i buro’n natur a chynhesu’n bron. Datguddia inni werth ysbrydol dras wrth gydaddoli’n deulu yn gytûn; ein deisyfiadau clyw, pâr deimlo’r ias syn brawf o’th bresenoldeb di dy hun. Yn nŵr y bedydd gwelwn ddarlun byw o galon Tad a’i feddwl am ei blant a’r ffynnon o drugaredd sydd yn Nuw a’i dyfroedd iach yn disychedu’r sant. Doed gras ein Harglwydd Iesu Grist yn hael a chariad Duw 1’n plith drwy’r ordinhad, a doed yr Ysbryd Glân i gannu’r gwael, y Tri yn Un i’n hawlio’n ddinacâd. D. HUGHES JONES